UWCHBEN Y BECWS TRYSOR TWM FFAT

Korky Paul a Peter Carter
addasiad Emily Huws
ISBN (PB) 1859021603
Gomer


Môr-leidr erchyll oedd Twm Ffat, meddai fo.

Môr-leidr creulon yn ymysod ar gestyll, yn cipio llongau ac yn codi braw ac arswyd ar bawb a phopeth ar hyd y moroedd mawr, meddai fo.

Claddai'i drysor mewn hen gestyll, ar ynysoedd pell, unig, yn y jyngl, ac ym mhobman arall drwy'r byd, meddai fo. Ond roedd gan Twm Ffat dair cyfrinach...


 UWCHBEN Y BECWS UWCHBEN Y BECWS

Robin Tzannes a Korky Paul
addasiad Emily Huws
(PB)Gomer


Bob bore a nos roedd Sanji'n synhwyro'r arogleuon gwych a doai o'r becws - bara blasus yn boeth o'r popty, cacennau cynnes yn llawn cyrens, a bisgedi brau yn hadau drostynt. Arogleuon gogoneddus! Un gyda'r nos curodd y Pobydd ar ei ddrws! 'Lleidr!' bloeddiodd. 'Rwyt ti'n dwyn f'arogleuon i. Rhaid iti dalu imi amdanyn nhw. Os gwrthodi di, rhaid iti fynd o flaen dy well.' Sanji druan, he yr un darn o arian ar ei elw! Beth wnaiff o?


 WINI'R WRACH WINI'R WRACH

Korky Paul a Valerie Thomas
addasiad Emily Huws/Ann Jones
Gomer


Roedd Wini'r Wrach yn byw mewn ty du.
Roedd y carpedi a'r cadeiriau,
y gwely a'r cynfasau,
y lluniau ar y wal
a'r bath, I gyd yn ddu.

Ac, wrth gwrs, roedd Mali'r gath yn ddu hefyd. Dyna oedd y drafferth: doedd Wini ddim yn gallu gweld Mali. Yna, un diwrnod, penderfynodd Wini ddefnyddio ychydig bach o hud a lledrith...


 YR HWYAD A FU A'I BEN YN EI BLU YR HWYAD A FU A'I BEN YN EI BLU

Jonathon Long a Korky Paul
addasiad Gwynne Williams
ISBN 1859023967
Gomer


'Ni chlywodd Huw'r larwm - a wyddoch chi be?
Fe gollodd ei ffrindiau yn cychwyn i'r De!'

Doedd dim amdani felly I Huw'r hwyad ond pacio ei fagiau a mynd ar eu hôl ar ei ben hunan. Gan ddilyn ei big mae'n baglu o anlwc ar y daith arwrol dros sawl cyfandir.

Gyda cholomen a pharot a fwltur yn bwrw eu pig i'w helpu mae'n ymddangos na fydd byth yn cyrraedd pen y daith. Am lwc hwyad! Ond fydd ei ben yn dod allan o'i blu? Arhoswch I weld...


back